04/07/2016
Mae'n amser yna o'r flwyddyn unwaith eto...
Dyma ni "line up" Gŵyl Pendraw'r Byd 2016. Ar y nos wener yng Ngwesty'r Llong bydd Y Chwedlau yn perfformio, yna o 2.30 ymlaen prynhawn Sadwrn bydd Côr y Porthmyn, Tri Gog a Hwntw a Trio yn codi'r to yng ngwesty Tŷ Newydd.
Yn ogystal yn ystod y dydd bydd amryw o weithgareddau i blant ar y traeth ac ym Mhorth y Swnt wedi eu trefnu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn newydd 'leni rhwng 10yb a 2yh bydd Marchnad Cynnyrch Llŷn yn dod i Aberdaron gyda gwledd o fwyd a diod! Mae'r adloniant i gyd yn rhad ac am ddim - Rhywbeth bach at ddant pawb gobeithio!