12/08/2025
Penseiri Russell Hughes Cyf
Cyfle i Bensaer i ymuno gyda chwmni Russell Hughes Cyf. I weithio ar brosiectau hynod o diddorol yn Sir Fon, Gwynedd a Chonwy.
Rydym yn chwilio am bensaer RIBA rhan 2/3, sydd â sgiliau dylunio, cyfathrebu a chyflwyno rhagorol i ymuno ar tim. Mae gennym bortffolio o waith sy'n ehangu o brosiectau preswyl a masnachol, bach a mawr. Os ydych chi'n ddyfeisgar ac yn egnïol ac â diddordeb mewn bod yn rhan o'n tîm, hoffem glywed gennych a rhoi cyfle i chi gael dyfodol yma yng nghwmni Russell Hughes Cyf.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu dangos y canlynol:
creadigrwydd, gyda sgiliau dylunio cysyniadol cryf yr ydych yn hyderus wrth eu cyflwyno mewn amrywiaeth o gyfryngau
gallu mewn pecynnau modelu 3D Auto cad a/ neu Revit
dealltwriaeth mewn rheolau rheolaeth adeiladu a chynllunio
sgiliau trefnu da ac agwedd brwdfrydig gyda'r gallu i weithio fel rhan o dîm neu yn unigol
sgiliau cyfathrebu cryf, ar lafar ac yn ysgrifennedig
Cysylltwch ac Owain Evans - [email protected] gan amgau copi o CV.